Help a Chanllaw ar gyfer defnyddwyr y Gwasanaeth Ymateb Cartrefi Ar-lein
1. Mae problemau technegol.
-
Efallai bod problem gysylltu leol – ydych chi wedi cysylltu? Edrychwch i weld a allwch chi gysylltu â www.google.co.uk neu www.bbc.co.uk. Yn aml caiff problemau eu datrys trwy stopio ac ailgychwyn eich porwr, neu os yw’r broblem yn fwy difrifol efallai y bydd angen aildanio eich cyfrifiadur.
2. Mae’r system rhyngrwyd yn gwrthod fy Nghod Diogelwch neu fy Nghod Post.
-
Sicrhewch eich bod yn ei nodi’n gywir. Mae’n rhaid ei roi yn y blychau testun priodol, heb fylchau. Mae’n rhaid i chi roi’r un cod post â sydd ar eich ffurflen gofrestru. Gallwch ei roi gyda neu heb fylchau ac mewn llythrennau bychain neu briflythrennau e.e. N8 0NW fel n80nw. Sicrhewch nad ydych chi’n camgymryd 1 am I neu 0 am O. Os nad oes cof post ar eich ffurflen, e-bostiwch eich manylion i’r cyfeiriad cymorth technegol isod.
3. Mae’r system rhyngrwyd yn dweud fy mod i eisoes wedi cofrestru.
-
Os yw rhywun o’ch aelwyd eisoes wedi cofrestru, dros y ffôn neu’r we neu SMS (os yw eich awdurdod lleol yn defnyddio’r gwasanaeth hwn), bydd y system yn atal unrhyw un arall rhag defnyddio’r un Cod Diogelwch i fewngofrestru. Efallai bod cyfaill neu berthynas wedi cofrestru ar eich rhan?
4. Mae arnaf i angen cofrestru mwy nag un eiddo.
-
Wedi i chi gwblhau pob cofrestriad, bydd yn rhaid rhoi’r cyfeiriad gwe ar y ffurflen yn eich porwr eto (efallai y gallwch ddewis y cyfeiriad o’r gwymplen ym maes cyfeiriad eich porwr). Ni ddylech ddefnyddio tudalennau y mae eich porwr wedi eu storio o gofrestriadau blaenorol.
5. Roedd gwall, neu tarfwyd ar fy nghysylltiad gwe wrth gofrestru, ydy fy nghofrestriad wedi ei gadw?
-
Mewngofnodwch eto, os cafodd y cofrestriad ei gofnodi’n gywir, ni chewch fynd yn ôl ar y system; fel arall, cewch.
6. Mae gennyf nam ar y llygad neu rwy’n ddefnyddiwr gwe anabl ac mae arnaf angen meddalwedd neu offer arbennig i bori’r we. Yw’r wefan hon yn cyd-fynd â’m system
-
Rydym wedi profi’r wefan ar ystod eang o borwyr ac wedi ymgorffori egwyddorion hygyrchedd i gynllun y wefan pan fu hynny’n bosibl heb ildio swyddogaeth na diogelwch y wefan. Felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor ddefnyddiadwy a hygyrch â phosibl, ond rhowch wybod i ni os cewch broblemau ac fe ymchwiliwn.
7. Sut gallaf sicrhau y cedwir fy manylion personol yn ddiogel wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?
Mae gan Democracy Counts ddiogelwch corfforol yn ein cyfleusterau sy’n diogelu rhag colli, dwyn, camddefnyddio neu newid gwybodaeth ac mae hefyd yn unol â safon diogelu data ISO 27001 . Hefyd, mae gwahanol haenau o fesurau diogelwch wedi eu gosod trwy lwyfan ein gwefan, er enghraifft waliau tân caledwedd ac apps.
-
Cadwch eich Ffurflen Gofrestru’n ddiogel o leiaf tan i chi gofrestru – mae Cod Diogelwch arni a ddefnyddir i fynd i’r wefan.
- Peidiwch â gadael eich cyfrifiadur heb oruchwyliaeth os nad yw wedi diffodd.
- Os ydych yn rhannu cyfrifiadur, sicrhewch eich bod yn cau eich porwr ar ôl ei ddefnyddio.
-
Defnyddiwch feddalwedd gwrth-firws a wal dân i ddiogelu eich cyfrifiadur a diweddarwch eich meddalwedd gwrth-firws yn rheolaidd.
-
Peidiwch ag agor atodiadau e-bost na chlicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost gan bobl nad ydych yn eu hadnabod..
Cymorth technegol
Loading Please wait...