Polisi Preifatrwydd

Rydym yn parchu’ch Preifatrwydd.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi sut a phryd y gallwn gasglu gwybodaeth amdanoch chi pan rydych chi’n ymweld â’r safle hwn. Nid yw ymateb i Ffurflen Ymholiadau Cartrefi yn cael ei wneud ar sail caniatâd, y sail gyfreithiol gywir yw cyflawni tasg gyhoeddus 6 (1) e.

Eich Cyngor neu’ch Cyd-fwrdd Prisio (Joint Valuation Board) yw’r Rheolwr Data ar gyfer unrhyw wybodaeth a gesglir ar y safle hwn yn unol â Deddf Diogelu Data’r Deyrnas Unedig. Dylech gyflwyno unrhyw ymholiadau ynghylch y polisi hwn neu’r data yr ydym yn ei gadw amdanoch chi i:

The Data Compliance Officer
Democracy Counts Limited
3A Liverpool Road
Warrington
WA5 1ED

Data Personol a’r Dibenion

Ysgrifennir a chynhelir y wefan hon gan Democracy Counts Limited. Prif ddiben y wefan yw cofnodi ymateb i’r gohebiaeth canfasio.

Rydym yn dadansoddi gwybodaeth a gesglir trwy ein gwefan er mwyn ei gwneud mor hygyrch â phosibl. Ni fyddwn fyth yn defnyddio’r data rydym yn ei gasglu at unrhyw ddibenion eraill oni mynegwch ganiatâd i ni wneud hynny. Ni fyddwn fyth yn defnyddio’ch gwybodaeth at ddibenion marchnata.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Rydym yn diogelu ein gwefan drwy ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair ac rydym yn casglu manylion am gyfeiriad IP y cyfrifiadur rydych yn ei defnyddio i ganfod ac atal twyll, ynghyd â’r dyddiad a’r amser yr ydych yn ymweld â’r wefan.

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd

Cyhoeddir unrhyw newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd yn y dyfodol ar y wefan hon a phan fo’n briodol, mewn neges e-bost.